Cyllid ychwanegol a gweddnewid gwasanaethau

·      Pa ganlyniadau penodol y mae’r buddsoddiad ychwanegol yn 2016-17 wedi’u sicrhau o ran diwygio, gwella gwasanaethau ac ysgogi newid mewn gwasanaethau. 

·      Pa ganlyniadau yr ydych bellach yn eu disgwyl ar gyfer y buddsoddiad ychwanegol yn 2017-18 a sut y caiff y canlyniadau hyn eu mesur.

Darparodd Cyllideb 2017-18 ar gyfer buddsoddiad ychwanegol o gyllid refeniw gwerth £240miliwn i gydnabod y pwysau o ran costau a galw sy’n wynebu’r GIG yng Nghymru a amlinellwyd yn adroddiad Ymddiriedolaeth Nuffield 2014, ac yn fwy diweddar yn adroddiad y Sefydliad Iechyd – The Path to Sustainability.

 

Mae dyraniadau yn ôl disgresiwn 2017-18 ar gyfer Byrddau Iechyd wedi cynyddu £90miliwn er mwyn talu am ddyfarniadau cyflog gweithwyr cyflogedig y GIG, y costau i GIG Cymru sy’n deillio o Ardoll Brentisiaethau Llywodraeth y DU, a phwysau costau eraill ar sail chwyddiant. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd o 2% i’r dyraniad rheolaidd yn ôl disgresiwn a’r dyraniad sydd wedi’i glustnodi. Mae £20miliwn arall wedi’i neilltuo i dalu costau contractau gofal sylfaenol sy’n deillio o chwyddiant (gan gynnwys £12.7miliwn i dalu am godiad cyflog a threuliau meddygon teulu yn 2017/18) a chyllidebau canolog y GIG.

 

Bydd buddsoddiad mewn gwasanaethau meddygol cyffredinol yn cynyddu tua £27miliwn yn 2017-18. Mae hyn yn cynnwys codiad cyflog a threuliau meddygon teulu a nodwyd uchod, a buddsoddiad newydd gwerth £14.3miliwn i ariannu gwasanaethau newydd, gwell ar gyfer cartrefi gofal, rheoli warfarin, diabetes a darparu profion fflebotomi wedi’u trefnu gan y sector gofal eilaidd. Mae’r newidiadau y cytunwyd arnynt i’r contract ar gyfer gwasanaethau meddygol cyffredinol yn 2017-18 yn llwyfan cryf i feddygon teulu barhau i ddarparu gofal iechyd cynaliadwy o ansawdd uchel yn y cyfnod heriol hwn.

 

Mae £20miliwn ychwanegol wedi’i ddyrannu i’r byrddau iechyd fel rhan o’r dyraniad iechyd meddwl wedi’i glustnodi yn unol â’r cytundeb ar y gyllideb gyda Phlaid Cymru. Bydd hyn yn helpu cynnydd tuag at gyflwyno’r cynllun cyflenwi ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’.  

 

Nid ydym wedi gwneud penderfyniadau eto ynglŷn â dyrannu gweddill y buddsoddiad ychwanegol yn y GIG. Rydym yn bwriadu ei ddefnyddio i gymell gwelliannau parhaus mewn cynlluniau tymor canolig, ac i helpu i weddnewid gwasanaethau lleol, gan fynd â gofal yn agosach i’r cartref.

 

Fodd bynnag, bydd angen i ni ystyried y risgiau ariannol parhaus sy’n parhau i fod yn y system, yn enwedig yn y pedwar bwrdd iechyd â lefelau cyfeirio uwch. O ganlyniad, nid ydym yn bwriadu dyrannu’r cyllid hwn yn llawn ar hyn o bryd, a byddwn yn cadw’r cyllid yn ôl er mwyn mantoli cyllideb y GIG yn gyffredinol.

 

·      I ba raddau y mae’r cyllid ychwanegol wedi cael ei ddefnyddio wrth gynnal gwasanaethau presennol GIG Cymru;

Fel yr amlinellwyd uchod, mae £110miliwn o’r cyllid refeniw £240miliwn ychwanegol wedi’i ddarparu i dalu am y costau uwch arferol ar sail chwyddiant i gynnal gwasanaethau presennol y GIG. Mae hyn yn cyd-fynd ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gydnabod y pwysau o ran costau a galw sy’n wynebu’r GIG yng Nghymru, fel y nodwyd yn adroddiad annibynnol Ymddiriedolaeth Nuffield yn 2014, ac yn fwy diweddar yn adroddiad y Sefydliad Iechyd – The Path to Sustainability.

 

·      Sut y mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gweithlu a all ddiwallu anghenion iechyd a gofal yn y dyfodol yn cael ei ddatblygu;

Er gwaetha’r setliadau ariannol heriol, rydym yn parhau i ddatblygu a buddsoddi yng ngweithlu’r GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru er mwyn diwallu anghenion iechyd a gofal ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Dyma rai enghreifftiau:

Ø  Ein cronfa gofal sylfaenol o £42.6miliwn

Ø  Buddsoddiad parhaus mewn addysg a hyfforddiant gweithwyr iechyd proffesiynol  

Ø  Pecyn gwerth £95 miliwn i gefnogi rhaglenni addysg a hyfforddiant

Ø  Rhaglen datblygu’r gweithlu gofal cymdeithasol gwerth £8 miliwn

Ø  Cyllid gwerth £0.733miliwn i dalu am nifer o leoedd hyfforddiant meddygol ychwanegol ledled Cymru

Ø  Cyllid parhaus o £1miliwn y flwyddyn ar ôl hynny

Ø  Parhau â bwrsariaethau ar gyfer gwaith cymdeithasol ac ehangu trefniadau Bwrsariaethau’r GIG

Ø  Ymrwymiad i sefydlu Addysg Iechyd Cymru erbyn mis Ebrill 2018

Ø  Cyllid gwerth £19miliwn i helpu’r sector i gyflwyno’r Cyflog Byw Cenedlaethol 

 

 

Rydym wedi gofyn am uno’r amserlenni ar gyfer gwneud penderfyniadau ynglŷn â lleoedd hyfforddi meddygol a deintyddol a lleoedd hyfforddi anfeddygol. Mae proses 2018-19 ar waith ar hyn o bryd.

·      Sut y mae dyraniadau cyllid yn adlewyrchu nod Llywodraeth Cymru o symud gwasanaethau o’r ysbyty i’r gymuned;

Er mwyn cefnogi Cymru iachach a sicrhau gwasanaethau iechyd cynaliadwy, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu newid y drefn fel bod y system iechyd yn canolbwyntio llai ar salwch ac ysbytai a mwy ar wella iechyd. Bydd gan bobl fynediad cyfartal i’r rhan fwyaf o’r gofal sydd ei angen arnynt i wneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw mor agos i’w cartrefi â phosibl, ar sail ethos cyd-gynhyrchu. 

 

Mae’r Gyllideb ar gyfer 2017-18 yn cefnogi’r amcan strategol hwn drwy nifer o ddyraniadau ariannu penodol, gan gynnwys y gronfa gofal sylfaenol, y gronfa gofal integredig, cyllid ar gyfer y cynlluniau cyflawni cenedlaethol, y gronfa ar gyfer effeithlonrwydd drwy dechnoleg, a chyllid ar gyfer pobl hŷn ac iechyd meddwl. 

 

·      Dadansoddiad o sut y cafodd y £50miliwn o arian ychwanegol ar gyfer pwysau’r gaeaf ei ddyrannu, a pha ganlyniadau a gafodd eu sicrhau;

Dosbarthwyd yr arian £50miliwn i fyrddau iechyd yng Nghymru (gweler y manylion yn y bocs isod) i helpu i gynnal trywydd perfformiad gwell dros gyfnod y gaeaf. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod y cyllid ond yn cael ei ddefnyddio i wella perfformiad, cafodd £5.1miliwn ei gymryd yn ôl gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ar ddiwedd y flwyddyn ariannol gan nad oedd darpariaeth y Bwrdd yn cyd-fynd â’i gynlluniau y cytunwyd arnynt.

 

 

 

 

 

Rhaniad cyfran deg (£m)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

9.33

Aneurin Bevan

9.97

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

11.09

Caerdydd a’r Fro

7.50

Cwm Taf

5.80

Hywel Dda

6.31

Cymru Gyfan

50.00

 

 

 

Dros gyfnod y gaeaf, roedd perfformiad o safbwynt amseroedd aros Rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth yn well na’r flwyddyn flaenorol yn gyffredinol. Roedd perfformiad 26 wythnos ddiwedd mis Mawrth 2017 (88%) 1.2 pwynt canran yn uwch nag ym mis Mawrth 2016; roedd y niferoedd 36 wythnos 28% yn is nag ym mis Mawrth 2016, a’r ganran hon oedd yr orau ers mis Mawrth 2014; roedd amseroedd aros wyth wythnos diagnostig ar eu lefel isaf ers chwe blynedd; roedd perfformiad 62 diwrnod ym maes canser ar ei lefel uchaf ers mis Tachwedd 2014.

 

Yn ogystal, er nad oedd perfformiad ym maes gofal heb ei drefnu cystal â’n disgwyliadau, roedd y perfformiad pedair awr dros gyfnod y gaeaf yn well yn gyffredinol na pherfformiad y gaeaf blaenorol.  

 

Mae perfformiad y gwasanaeth ambiwlans yn erbyn y targed wyth munud coch wedi bod yn well bob mis na’r un mis y llynedd, ac mae wedi bod dros 70% yn gyson.

 

Cafodd 564 (4%) yn llai o driniaethau eu gohirio ar ddiwrnod y driniaeth neu’r diwrnod cynt dros y gaeaf o’i gymharu â’r gaeaf blaenorol. Cafodd 965 (38%) yn llai o driniaethau eu gohirio oherwydd prinder gwelyau naill ai ar y diwrnod neu’r diwrnod cynt.

 

·      Tystiolaeth o sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro gweithgarwch i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu diwygio’n ystyrlon a sicrhau canlyniadau cadarnhaol i gleifion;

Mae’r gofynion darpariaeth blynyddol ar gyfer y GIG wedi’u cynnwys yn fframwaith canlyniadau a chyflawni’r GIG. Mae’r fframwaith wedi’i rannu’n saith parth sy’n nodi’r meysydd blaenoriaeth yr oedd cleifion, clinigwyr a rhanddeiliaid eisiau mesur y GIG yn eu herbyn. Y saith parth yw:

Ø  Cadw’n iach

Ø  Gofal diogel

Ø  Gofal effeithiol

Ø  Gofal ag urddas

Ø  Gofal amserol

Ø  Gofal unigol

Ø  Ein staff ac adnoddau

 

Mae Fframwaith Cyflawni GIG Cymru yn mesur y GIG gydol y flwyddyn i asesu darpariaeth gwasanaethau a phrosesau sy’n cyfrannu at set o ganlyniadau y cytunwyd arnynt.  

 

·      Manylion am yr allbynnau a’r canlyniadau penodol a gafodd eu sicrhau drwy Gyllid Gofal Canolraddol yn 2016-17 a’r hyn yr ydych yn disgwyl iddo gael ei gyflawni drwy fuddsoddi parhaus yn 2017-18.

Sefydlwyd y Gronfa Gofal Canolraddol yn 2014-15 i hyrwyddo gwaith partneriaeth drwy ddarparu gwasanaethau integredig ac arloesol ym meysydd iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, tai a’r trydydd sector. Y Gronfa Gofal Integredig yw teitl newydd y gronfa er mwyn adlewyrchu ei diben yn well.

 

Yn 2016-17, roedd cyllid refeniw gwerth £50miliwn a chyllid cyfalaf gwerth £10miliwn ar gael. Mae byrddau partneriaethau rhanbarthol, a sefydlwyd o dan Ran 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn gyfrifol am oruchwylio’r Gronfa Gofal Canolraddol ac am sicrhau ei bod yn cael ei defnyddio a’i gweithredu’n effeithiol. 

 

Mae’r Gronfa Gofal Canolraddol wedi’i defnyddio i sefydlu amrywiaeth o fodelau gofal a chymorth gwahanol sydd wedi lleihau’r pwysau ar y system ysbytai, gan gynnwys lleihau nifer y derbyniadau diangen i ysbytai, lleihau nifer y derbyniadau amhriodol i ofal preswyl, a lleihau’r oedi cyn rhyddhau cleifion o’r ysbyty. Mae’r modelau hyn yn cynnwys:

Ø  Gwasanaethau Man Mynediad Sengl;

Ø  Addasu tai i helpu i atal codymau a sicrhau bod pobl yn gallu aros yn eu cartrefi eu hunain;

Ø  Gwelyau adsefydlu cymunedol Cam i Fyny/Cam i Lawr; 

Ø  Cymunedau sy’n ystyriol o ddementia;

Ø  Grantiau i helpu sefydliadau’r trydydd sector i leihau arwahanrwydd cymdeithasol pobl hŷn a gwella darpariaeth gwasanaethau cymunedol a mynediad iddynt.

Mae’r gwasanaethau hyn wedi creu capasiti ychwanegol ac wedi helpu i ganolbwyntio ar gadw ffigurau oedi wrth drosglwyddo gofal o dan 400 yng Nghymru.

 

Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, dyrannwyd elfen gwerth £15miliwn o’r Gronfa Gofal Canolraddol i gefnogi gofynion Deddf 2014 i ddarparu gwasanaethau ataliol, gan gynnwys atal datblygiad anghenion gofal a chymorth. Yn ogystal, mae elfennau o’r Gronfa Gofal Canolraddol wedi’u dyrannu’n benodol i helpu i roi’r canlynol ar waith:

ØY Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig i Gymru – dull cyson o ddarparu gofal a chymorth i bobl ag awtistiaeth ledled Cymru;  

ØSystem Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru– sy’n galluogi rhagor o integreiddio rhwng timau iechyd a gofal cymdeithasol drwy ddarparu ar gyfer cofnod gofal cyffredin.  

 

Disgwyliadau ar gyfer 2017-18

Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i gadw’r gronfa bwysig hon, ac mae cyfanswm o £60miliwn wedi’i neilltuo eto ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.

 

Canolbwyntir mwy ar y Gronfa Gofal Integredig wedi’i hailfrandio fel dull gweithredu allweddol ar gyfer y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Felly, mae amcanion y Gronfa Gofal Canolraddol yn gysylltiedig â meysydd blaenoriaeth integreiddio byrddau partneriaeth rhanbarthol:

ØPobl hŷn sydd ag anghenion cymhleth a chyflyrau hirdymor, gan gynnwys dementia;

ØPobl ag anableddau dysgu;

ØPlant ag anghenion cymhleth oherwydd anabledd neu salwch; ac

Ø(am y tro cyntaf) Gofalwyr, gan gynnwys gofalwyr ifanc.

 

 

Perfformiad ac effeithlonrwydd

·      Y targedau effeithlonrwydd a pherfformiad allweddol ar gyfer 2016-17 yn y sector iechyd, sut y mae GIG Cymru wedi perfformio yn erbyn y targedau hyn a sut y mae cyllid yn cael ei ddefnyddio i fynd i’r afael ag unrhyw feysydd sy’n peri pryder;

Yn 2016-17, mae ffocws cenedlaethol o’r newydd wedi’i roi ar wella effeithlonrwydd drwy sefydlu Bwrdd Effeithlonrwydd cenedlaethol o dan gadeiryddiaeth Prif Weithredwr GIG Cymru.

 

Fel rhan o’r dull gweithredu cenedlaethol gwell ym meysydd effeithlonrwydd a gwerth o dan arweiniad y Bwrdd Effeithlonrwydd, mae nifer o raglenni a themâu yn cael eu rhoi ar waith o dan ddwy thema benodol:

Ø  Mae Fframwaith Effeithlonrwydd a Chynhyrchiant a Thargedau Effeithlonrwydd ar gyfer 2017 wedi’u cymeradwyo a’u hanfon i Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG i’w cynnwys yng Nghynlluniau Tymor Canolig Integredig a Chynlluniau Blynyddol mis Mawrth 2017-18.

Ø  Yn ystod 2017-18, bydd rhaglen waith y Grŵp Effeithlonrwydd (a fydd yn cael ei rhoi ar waith gan sefydliadau unigol y GIG a Grwpiau Gweithredol a Phroffesiynol Cymru Gyfan) yn cynnwys y canlynol:

·         Amrywiad clinigol o dan arweiniad Cyfarwyddwyr Meddygol

·         Rheoli meddyginiaethau o dan arweiniad Prif Fferyllwyr

·         Trosglwyddo cyfnodau dyletswydd nyrsys yn effeithiol o dan arweiniad Cyfarwyddwyr Nyrsio

·         Effeithlonrwydd digidol a TG o dan arweiniad Bwrdd Rheoli Gwybodeg y GIG

 

Hefyd, mae’r ffocws cenedlaethol hwn wedi ail-nodi meysydd blaenoriaeth i’w gwella gan fyrddau iechyd er mwyn helpu i gyrraedd targedau perfformiad cenedlaethol, fel atgyfeiriadau ar gyfer triniaeth a gofal heb ei drefnu. Er bod arian ychwanegol wedi’i ddarparu i helpu i wella perfformiad yn erbyn y targedau hyn, mae angen sicrhau effeithlonrwydd er mwyn newid gwasanaethau mewn ffordd fwy cynaliadwy wrth symud ymlaen.

 

Mae’r gwaith hwn ym maes cynaliadwyedd wedi’i gefnogi hefyd gan y rhaglenni cenedlaethol perthnasol, gan sicrhau rhagor o effeithlonrwydd a gwelliannau yn y maes. Dyma rai enghreifftiau:

Ø  Mae’r Bwrdd gofal wedi’i gynllunio cenedlaethol yn amlygu ac yn monitro rhestr o driniaethau sy’n cael effaith gyfyngedig yn y pedwar maes darpariaeth.

Ø  Datblygu dulliau rheoli llwybrau amgen i leihau’r galw gan gleifion newydd a chleifion allanol ym meysydd y rhaglen gofal wedi’i gynllunio

Ø  Mae cyfraddau “Heb fynychu” wedi’u blaenoriaethu drwy’r rhaglen cleifion allanol genedlaethol er mwyn gwella capasiti, ac mae nifer o fyrddau iechyd wedi gwneud gwelliannau arwyddocaol

Ø  Mae’r rhaglen gofal heb ei drefnu wedi herio cyfnodau aros mewn argyfwng drwy ffocws cenedlaethol ar brosesau rhyddhau cleifion, fel gwella nifer y cleifion sy’n cael eu rhyddhau cyn 11am, a defnyddio gwelyau cymunedol yn well

Ø  Mae grŵp cenedlaethol theatrau llawdriniaethau wedi canolbwyntio o’r newydd ar fesurau cenedlaethol, ac mae dau ddigwyddiad wedi’u cynnal i rannu arferion da a gwella gwasanaethau.

 

Fel rhan o’r broses gynllunio ar gyfer Cynlluniau Tymor Canolig Integredig 2017-18, derbyniodd pob bwrdd iechyd adroddiad effeithlonrwydd penodol i amlygu eu meysydd ffocws a chynllunio ychwanegol wrth gyflwyno eu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig. Bydd cynnydd yn erbyn y cynlluniau hyn yn cael ei fonitro yn ystod y flwyddyn.

 

Sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn ariannol – mis Mawrth 2017

Amseroedd aros Rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth

Ddiwedd mis Mawrth 2017:

ØRoedd y perfformiad ar gyfer amseroedd aros 26 wythnos yn 88.0%, sef cynnydd o 1.2 pwynt canran o’i gymharu â mis Mawrth 2016. Dyma’r perfformiad gorau ers mis Mawrth 2014;

ØRoedd 12,354 o bobl yn aros dros 36 wythnos, sef gwelliant o 4,836 (28%) o’i gymharu â mis Mawrth 2016. Dyma’r nifer isaf ers mis Mawrth 2014.

 

Diagnosteg

Ddiwedd mis Mawrth 2017:

ØRoedd 4,741 o bobl yn aros dros wyth wythnos am un o’r profion diagnostig penodedig. Mae’r ffigur hwn 4,061 (46%) yn is nag ym mis Mawrth 2016. Dyma’r nifer isaf o bobl yn aros dros wyth wythnos ers mis Mawrth 2011.

 

Gwasanaethau Therapi

Ddiwedd mis Mawrth 2017:

ØRoedd 2,477 o bobl yn aros dros 14 wythnos am wasanaethau therapi. Mae’r ffigur hwn 94 (4%) yn is nag ym mis Mawrth 2016.

 

Damweiniau ac Achosion Brys

Yn ystod mis Mawrth 2017:

ØCanran y perfformiad 4 awr oedd 80.9% yn erbyn targed o 95%. Mae’r ganran hon 4.4 pwynt canran yn uwch nag ym mis Mawrth 2016;

ØRoedd 3,206 o bobl yn aros 12 awr, sy’n 1,187 (27%) yn llai nag ym mis Mawrth 2016.

 

Ambiwlans

      Yn ystod mis Mawrth 2017:

ØCafwyd ymateb i 77.9% o alwadau coch ymhen wyth munud. Mae’r ganran hon 12.2 pwynt canran yn uwch nag ym mis Mawrth 2016;

ØTrosglwyddwyd 56.3% o bobl o staff y gwasanaeth ambiwlans i staff Damweiniau ac Achosion Brys ymhen 15 munud. Mae’r ganran hon 10.3 pwynt canran yn uwch nag ym mis Mawrth 2016;

ØArhosodd 1,924 o bobl dros awr i gael eu trosglwyddo o staff y gwasanaeth ambiwlans i staff Damweiniau ac Achosion Brys. Mae’r ffigur hwn 1,610 (46%) yn llai nag ym mis Mawrth 2016.

 

Canser – 62 diwrnod

Yn ystod mis Mawrth 2017:

ØRoedd y perfformiad 62 diwrnod yn 89.3%. Mae’r ganran hon 3.6 pwynt canran yn uwch nag ym mis Mawrth 2016.  

 

Oedi Wrth Drosglwyddo Gofal

Yn ystod mis Mawrth 2017:

ØCafwyd 389 o achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau iechyd meddwl a rhesymau nad oeddent yn gysylltiedig ag iechyd meddwl. Mae’r ffigur hwn 135 (26%) yn is nag ym mis Mawrth 2016.

 

Strôc

ØYm mis Mawrth 2017, derbyniwyd 45.4% o bobl yn uniongyrchol i uned strôc ymhen llai na phedair awr ledled Cymru, sef gwelliant o 7.2 pwynt canran o’i gymharu â mis Mawrth 2016;

ØYm mis Mawrth 2017, cafodd 95.3% o bobl sgan CT ymhen llai na 12 awr ledled Cymru, sef yr un ganran ag ym mis Mawrth 2016;

ØYm mis Mawrth 2017, cafodd 85.2% o bobl eu hasesu gan nyrs strôc ymhen llai na 24 awr ledled Cymru, sef gwelliant o 10.4 pwynt canran o’i gymharu â mis Mawrth 2016;

ØYm mis Mawrth 2017, cafodd 27.3% o bobl â thrombolysis gyffuriau o’r drws i’r nodwydd ymhen 45 munud ledled Cymru, sy’n 14.8 pwynt canran yn llai nag ym mis Mawrth 2016.

 

·      Sut y mae’r dyraniad o £30miliwn ar gyfer 2016-17 ar gyfer pobl hŷn ac iechyd meddwl, a’r cyllid ar gyfer gofal sylfaenol, cynllun cyflenwi, technoleg iechyd ac iechyd meddwl a ddyrannwyd wedi cael ei ddefnyddio a’r canlyniadau ar gyfer y buddsoddiad hwn.  

 

Cyllideb £30miliwn ar gyfer pobl hŷn ac iechyd meddwl

Mae’r cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio mewn meysydd blaenoriaeth sydd wedi’u hamlygu yn y Rhaglen Lywodraethu a strategaethau cysylltiedig gan gynnwys cynllun cyflenwi Law yn Llaw at Iechyd Meddwl

 

Mae’r meysydd blaenoriaeth yn 2016-17 wedi cynnwys:

Ø   Creu timau adnoddau hyblyg mewn ysbytai i wella profiad cleifion drwy leihau’r defnydd o staff asiantaethau ar wardiau cyffredinol, gwella cydweithio rhwng yr adrannau brys ac adrannau seiciatrig, a rhwng staff iechyd meddwl ac iechyd corfforol.

Ø    Sesiynau ychwanegol mewn clinigau cof sy’n ceisio lleihau amseroedd aros ar gyfer asesiad cychwynnol am ddiagnosis o ddementia. Erbyn mis Rhagfyr 2016 roedd tua 700 o sesiynau wedi’u darparu – rydym wedi gofyn i’r byrddau iechyd am y wybodaeth ddiweddaraf am eu cynnydd hyd at ddiwedd mis Mawrth 2017.

Ø   Gwella mynediad i wasanaethau seicolegol seiliedig ar dystiolaeth drwy ddarparu capasiti ychwanegol ar gyfer gwasanaethau. Rydym eisoes wedi ymrwymo i adrodd ar darged o 26 wythnos ar gyfer amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol eilaidd, a bwriedir cyflwyno’r strwythur adrodd erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Yn y cyfamser, gofynnir i’r byrddau iechyd weithio tuag at gyrraedd y targed hwn – mae gwybodaeth gan reolwyr yn dangos bod cynnydd yn cael ei wneud.

Ø   Mae buddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau cymorth iechyd meddwl lleol sylfaenol i helpu i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl o dan y Mesur wedi arwain at welliannau ar lefel Cymru gyfan. Yn ôl data StatsCymru a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2016, cynhaliwyd 85.7% o asesiadau ymhen 28 diwrnod i ddyddiad derbyn yr atgyfeiriad, ac roedd 77.1% o ymyraethau therapiwtig wedi cychwyn ymhen 28 diwrnod i gynnal asesiad gwasanaethau cymorth iechyd meddwl lleol sylfaenol. Mae’r wybodaeth a ddarparwyd gan Fyrddau Iechyd Lleol yn eu trafodaethau â ni ar eu perfformiad ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yn dangos eu bod yn hyderus y byddant wedi rhagori ar y targed o 80% ar gyfer asesiadau ac ymyraethau ar lefel Cymru gyfan. Mae’r sefyllfa hon yn well na’r sefyllfa ym mis Mawrth 2016 pan na lwyddwyd i gyrraedd y targed o 80% ar gyfer asesiadau neu ymyraethau ar lefel Cymru gyfan.

Ø   Datblygu gweithwyr cymorth trosglwyddo / adsefydlu yng Ngwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) mewn timau seicosis ymyrraeth gynnar, er mwyn hyrwyddo adferiad gweithredol drwy gyrchu cyfleoedd cymdeithasol, addysgol a chyflogaeth ar gyfer pobl ifanc â salwch meddwl difrifol. Mae byrddau iechyd wedi cael eu hannog i gydweithio â sefydliadau trydydd sector i fanteisio’n llawn ar y cyllid sydd ar gael. Roedd pob bwrdd iechyd ond dau wedi penodi staff erbyn mis Ebrill 2017, ac mae’r ddau arall yn rhagweld y byddant yn penodi staff yn fuan.

Ø   Darparu hyfforddiant ar siarad am salwch difrifol i ddatblygu sgiliau cyfathrebu sylfaenol staff gofal iechyd sy’n ymwneud â’r holl agweddau ar salwch difrifol a gofal ar gyfer cleifion sy’n marw fel rhan o’u gwaith o ddydd i ddydd. Mae’r ddarpariaeth hon ar gyfer staff nad ydynt wedi cael hyfforddiant gofal lliniarol arbenigol ac nad ydynt yn gweithio yn y maes hwnnw.  

 

Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu gwasanaethau a fydd yn cefnogi’r strategaeth ddementia (pan gaiff ei chyhoeddi), prosiectau sy’n cefnogi blaenoriaethau Symud Cymru Ymlaen yn uniongyrchol (gan gynnwys presgripsiynu cymdeithasol, cwlwm llesiant, cyswllt ysgolion CAMHS ac unigrwydd ac arwahanrwydd) a chefnogi’r gweithlu ymhellach.

 

Y Gronfa Gofal Sylfaenol

Mae’r Gronfa hon yn darparu cyllid rheolaidd gwerth £42.6miliwn i gefnogi cynlluniau byrddau iechyd. Tair blaenoriaeth y cyllid hwn yw helpu i sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau, gwella mynediad a darparu rhagor o wasanaethau yn y gymuned. 

 

Mae arian y Gronfa wedi’i ddefnyddio i dalu am arweinydd proffesiynol cenedlaethol ar gyfer gofal sylfaenol, nifer fach o fentrau canolog fel hyb arloesi a datblygu gofal sylfaenol Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac ehangu gwasanaethau iechyd galwedigaethol ar gyfer meddygon teulu.

 

Dyrannwyd y rhan fwyaf o’r Gronfa i’r byrddau iechyd. Dyrannwyd £26.081miliwn i’r byrddau iechyd ar gyfer eu cynlluniau gofal sylfaenol a nodwyd yn eu cynlluniau tymor canolig integredig neu eu cynlluniau blynyddol.

 

Dyma rai enghreifftiau o sut mae’r cyllid hwn wedi’i ddefnyddio yn 20161-7 a’r canlyniadau a ddeilliodd ohono:

Ø  Mae buddsoddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi helpu i gynyddu capasiti, gan gynnwys ar gyfer ffisiotherapyddion anadlol, ac i uwchraddio a gwella gwasanaethau adsefydlu cleifion yr ysgyfaint sydd eisoes ar waith yn y gymuned.

Ø  Ym mis Mawrth 2017, nododd y bwrdd iechyd fod darpariaeth gwasanaethau wedi symud allan o ysbytai a bod dosbarthiadau’n cael eu cynnal ym mhob un o’r 11 clwstwr.   

Ø  Nododd y bwrdd iechyd fod rhestri aros wedi lleihau yn sylweddol – o 12-18 mis i 2-5 mis.

Ø  Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi buddsoddi mewn model sy’n helpu cleifion i reoli eu diabetes eu hunain i’r graddau posibl drwy gefnogi arferion a gwasanaethau cymunedol sy’n darparu gofal yn nes at gartrefi cleifion.   

Ø  Ym mis Mawrth eleni, nododd y bwrdd iechyd fod nifer y cleifion a fynychodd safleoedd adrannau brys Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan rhwng mis Mawrth 2016 a mis Chwefror 2017 wedi gostwng 14%.

Ø  Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi buddsoddi yn ei wasanaethau awdioleg gofal sylfaenol.

Ø  Mae’r model gwasanaeth newydd yn cynnwys hyfforddi a phenodi awdiolegwyr gofal sylfaenol ymarfer uwch y mae cleifion yn gallu mynd atynt yn uniongyrchol heb gael atgyfeiriad gan eu meddyg teulu.   

Ø  O ganlyniad i’r buddsoddiad hwn, mae’r gwasanaeth ar gael i bobl yn nes at eu cartrefi ac nid oes angen iddynt deithio i’r ysbyty.

 

Defnyddiwyd £4.948miliwn i gefnogi rhaglen fraenaru genedlaethol arloesol i brofi dulliau newydd o gynllunio, trefnu a darparu gofal sylfaenol. Dyma rai enghreifftiau o sut mae’r cyllid hwn wedi’i ddefnyddio yn 2016 –17:

Ø  Cwm Taf:Eich Meddyginiaethau, Eich Cynllun Braenaru Iechyd – amcan y cynllun hwn yw creu a sefydlu newid diwylliant yn ymwneud â defnydd cyfrifol o feddyginiaethau gan gleifion a’r cyhoedd, gan addysgu cleifion a sicrhau eu bod yn berchen mwy ar eu gofal eu hunain er mwyn helpu i wella cynaliadwyedd cyffredinol gwasanaethau.

Ø  Powys: Cafwyd buddsoddiad mewn cynllun peilot ar gyfer model brysbennu nyrsys ynghyd â rhagor o waith tîm amlddisgyblaethol i ryddhau capasiti meddygon teulu a sicrhau bod cleifion yn cael eu gweld gan y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol mwyaf priodol.      

Ø  O ganlyniad i’r buddsoddiad hwn a nodwyd gan y bwrdd iechyd ym mis Mawrth eleni, arweiniodd 20.34% o’r holl gyswllt (ffôn a brysbennu nyrsys) at gyngor yn unig, ac roedd 8.68% o’r holl gyswllt ar ffurf apwyntiad arferol gyda meddyg teulu. Mae’r ganran wedi parhau i leihau ers adroddiad mis Rhagfyr (9.85%). 

Ø  Mae cyfanswm o 4,852 o apwyntiadau meddygon teulu wedi’u hosgoi ar gyfer y cyfnod cronnol hyd at fis Chwefror 2017.

Ø  Cafwyd buddsoddiad mewn tri chynllun peilot ar gyfer y cyflwr dirywiad macwlaidd gwlyb ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. 

Ø  Mae’r cynlluniau peilot hyn wedi symud gwasanaethau asesu a thriniaeth ar gyfer cleifion â dirywiad macwlaidd gwlyb allan o ysbytai ac i gymunedau lleol. Mae’r gwasanaethau’n cael eu darparu yn y gymuned gan optometryddion a nyrsys o dan oruchwyliaeth offthalmolegydd. 

 

Canlyniadau’r buddsoddiad hwn:

Ø  Aneurin Bevan: yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, aseswyd cyfanswm o 2254 o gleifion a gweinyddwyd cyfanswm o 2227 o bigiadau. 

Ø  Hywel Dda: yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, trefnwyd 554 o apwyntiadau i gleifion a mynychwyd 528 ohonynt (95%). Cafwyd 285 o driniaethau (pigiadau), gan arwain at gyfradd driniaeth o 51% mewn lleoliad cymunedol.

Ø  Powys: yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, aseswyd 474 o gleifion a gweinyddwyd 259 o driniaethau.

 

Dyrannwyd £10miliwn i’r clystyrau gofal sylfaenol i benderfynu sut i ddefnyddio’r cyllid hwn i roi eu hatebion a’u blaenoriaethau lleol ar waith. Dyma rai enghreifftiau o sut mae’r cyllid hwn wedi’i ddefnyddio yn 2016 –17 a’r canlyniadau a ddeilliodd ohono:

Ø  Hywel Dda: mae 505 o Gynlluniau Cadw’n Iach wedi’u cwblhau yn un clwstwr eleni.

Ø  Ers i fenter eiddilwch y clwstwr gychwyn ym mis Medi 2015, mae gan 976 o gleifion ledled yr ardal Gynllun Cadw’n Iach.

Ø  Caerdydd a’r Fro: mae un clwstwr wedi sicrhau cytundeb 12 mis gyda MIND Caerdydd i gynorthwyo cleifion sydd â chyflyrau iechyd meddwl lefel isel. Cyhoeddir adroddiad ym mis Mawrth eleni ac mae 192 o atgyfeiriadau wedi’u gwneud ers canol mis Rhagfyr 2016.

Ø  Aneurin Bevan: mae un clwstwr wedi helpu nyrsys practis i ddatblygu sgiliau rheoli clwyfau.

Ø  Mae’r nyrsys ardal yn gweithio ochr yn ochr â nyrsys practis i gynnal clinig mewn meddygfeydd, gan fynd ati i helpu i asesu a datblygu cynlluniau triniaeth ar gyfer cleifion gofal clwyf.

 

Cyllid Cynlluniau Cyflenwi

Mae £1miliwn wedi’i ddyrannu ar gyfer pob un o naw cynllun cyflenwi’r prif gyflyrau iechyd (canser, diabetes, iechyd anadlol, clefyd yr afu, cyflyrau’r galon, cyflyrau niwrolegol, gofal critigol, strôc a diwedd oes), ac mae’r cyllid hwn wedi’i gynnwys mewn dyraniadau refeniw’r byrddau iechyd lleol.

 

Mae gan bob un o’r prif gyflyrau iechyd grŵp gweithredu sy’n gyfrifol am oruchwylio a dyrannu’r cyllid £1 miliwn. Mae’r grwpiau gweithredu yn defnyddio’r cyllid hwn i helpu i gyflawni’r amcanion a nodir ym mhob cynllun cyflenwi’r prif gyflyrau iechyd, ac i helpu i wireddu’r blaenoriaethau blynyddol a nodir gan y grŵp gweithredu.

 

Yn ogystal, mae cyllid £6.4miliwn yn cael ei ddyrannu i’r byrddau iechyd bob blwyddyn i gefnogi gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol sy’n cael eu darparu gan hosbisau ledled Cymru. Mae hyn yn sicrhau bod gwasanaeth ar gael i roi cyngor i weithwyr proffesiynol sy’n gofalu am gleifion yn eu cartrefi, mewn hosbisau ac mewn ysbytai ledled y wlad.  

 

Rydym wedi darparu cyllid untro gwerth £1miliwn eleni i helpu i gyflawni amcanion Gofal Diwedd Oes. Mae’r Bwrdd Gofal Diwedd Oes wedi nodi y bydd y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio i fabwysiadu agwedd gymunedol dosturiol at ofal diwedd oes, ar gyfer telefeddygaeth, i ddarparu rhagor o hyfforddiant ar siarad am salwch difrifol er mwyn helpu i ddatblygu uwch gofnod cynllunio gofal Cymru gyfan, i roi blaenoriaethau ymchwil ar waith ac i gefnogi clystyrau meddygon teulu yng Nghymru.

 

Mae Age Cymru wedi derbyn cyllid gwerth £241,950 i helpu i roi’r Rhaglen Heneiddio’n Iach ar waith. Mae’r cyllid hwn yn cefnogi ymyraethau unigol sy’n canolbwyntio ar Fentrau Iechyd, Gŵyl Celfyddydau a Chreadigrwydd Gwanwyn a Mentrau Gweithgareddau Corfforol.

 

Cyllid Technoleg Iechyd

Nod y rhaglen Effeithlonrwydd drwy Dechnoleg yw cyflymu’r broses o arddangos, gwerthuso a mabwysiadu nwyddau a gwasanaethau newydd, gan wella effeithlonrwydd a gwella canlyniadau i gleifion yn unol ag egwyddorion gofal iechyd darbodus. Disgwylir y bydd prosiectau ariannu technoleg iechyd yn arwain at enghreifftiau o effeithlonrwydd fel y canlynol:

Ø  Llai o bobl yn cael eu derbyn i’r ysbyty (ar gyfer cyflyrau penodol)

Ø  Llai o deithio (ar sail amser a chost)

Ø  Llai o ddefnydd o gynhyrchion presgripsiwn (cyffuriau a nwyddau traul e.e. gorchuddion)

Ø  Cleifion yn aros mewn ysbytai am lai o amser

Ø  Gwella profiad cleifion (adborth)

 

Mae’r gronfa Effeithlonrwydd drwy Dechnoleg yn helpu sefydliadau iechyd a gofal i fynd ati’n ddi-oed i werthuso technolegau addawol a chynyddu eu defnydd hyd at lefel ranbarthol neu genedlaethol. Yn ogystal â’r cyllid £10miliwn a ddyrannwyd i’r gronfa gan Lywodraeth Cymru yn 2016-17, cafwyd cyfraniadau arian cyfatebol gwerth £4.2miliwn gan ein prosiectau. Mae’r gymhareb arian cyfatebol hon yn amcangyfrif ceidwadol gan nad yw’n ystyried adnoddau cyfatebol eraill (staff/gorbenion adeiladau) sy’n anos i’w mesur.

 

 

Cynllunio ariannol a sefyllfa ariannol Byrddau Iechyd Lleol

·         Eich barn ar y sefyllfa debygol y gall y Byrddau Iechyd Prifysgol hyn ddisgwyl ei sicrhau ar ddiwedd y flwyddyn 2016-17.

·         A oes gennych chi unrhyw bryderon am 2017-18 a sefyllfa ariannol Byrddau Iechyd Lleol yn fwy hirdymor.

·         A ydych yn parhau i fod yn hyderus y bydd y Prif Grŵp Gwariant cyffredinol ar gyfer 2016-17 yn mantoli.

Mae gan fyrddau iechyd lleol ddyletswydd statudol i fantoli eu cyllideb dros dair blynedd ariannol yn unol â Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014. Mae cyfrifon statudol Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru ar gyfer 2016-17 wedi’u harchwilio a’u rhoi gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Cyflwynais ddatganiad ysgrifenedig i aelodau ar 9 Mehefin yn amlinellu canlyniad y broses.

 

Fe wnaethom reoli diffygion 2016-17 a nodwyd gan y pedwar bwrdd iechyd yn y gyllideb iechyd gyffredinol, ac o ganlyniad, rydym yn hyderus ein bod wedi mantoli cyllideb y Prif Grŵp Gwariant Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar gyfer 2016-17. Credwn y bydd y ffaith hon yn cael ei chadarnhau ar ôl cwblhau’r gwaith o archwilio cyfrifon adnoddau Llywodraeth Cymru yn nes ymlaen yn yr haf.

 

Byddwn yn gwneud datganiad maes o law ar asesu a chymeradwyo Cynlluniau Tymor Canolig Integredig Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG pan fydd y broses hon wedi’i chwblhau.

 

·         Credwn fod y gorwel cynllunio tair blynedd a nodwyd yn Neddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014 wedi bod yn offeryn defnyddiol ar gyfer Byrddau Iechyd Lleol o ran cysylltu cynllunio strategol ac ariannol. Fodd bynnag, rydym yn pryderu ynghylch y canlynol:

Mae nifer o sefydliadau yn dal i weithredu ar sail Cynllun Tymor Canolig Integredig un flwyddyn oherwydd eich bod yn teimlo na allech gymeradwyo eu cynlluniau tair blynedd.

Ers dechrau’r cylch cynllunio cyntaf yn 2014-15 pan gymeradwywyd pedwar sefydliad, mae nifer o sefydliadau wedi aeddfedu a datblygu.

 

Erbyn 2016-17, roedd Cynlluniau Tymor Canolig Integredig tair blynedd chwe sefydliad wedi’u cymeradwyo (Byrddau Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Cwm Taf a Phowys ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Felindre ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru).

 

Ni allai pedwar sefydliad (Byrddau Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Betsi Cadwaladr, Caerdydd a’r Fro a Hywel Dda) gyflwyno cynlluniau tair blynedd a oedd yn gynaliadwy, wedi’u mantoli’n unol â’r ddeddfwriaeth, ac y gallai eu Byrddau eu cymeradwyo. Gan na allai eu byrddau wneud hyn, ni allem gymeradwyo eu cynlluniau.

 

Mae dileu cymeradwyaeth dau sefydliad yn brawf o’r cymhwysedd a’r ddisgyblaeth sydd eu hangen. Mae’n dangos trylwyredd y broses sy’n cynnal y safonau a’r meini prawf wrth asesu cynlluniau.

 

Roedd Cynlluniau Tymor Canolig IntegredigAbertawe Bro Morgannwg a Chaerdydd a’r Fro wedi’u cymeradwyo ynghynt, ond yn dilyn gwaith craffu ac asesu manwl, nodwyd nad oedd y cynlluniau’n gynaliadwy nac yn gytbwys yn ariannol. Nid yw’r sefydliadau hyn wedi datblygu o ran aeddfedrwydd eu trefniadau ariannol a chynllunio yn unol â datblygiad sefydliadau eraill y GIG sydd â chynlluniau wedi’u cymeradwyo.  

 

Ar ôl methu cyflwyno cynlluniau cymeradwy ac yn dilyn trafodaeth yn y cyfarfod teirochrog ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, uwchgyfeiriwyd Byrddau Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Chaerdydd a’r Fro i lefel ‘Ymyrraeth wedi’i thargedu’, tra bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn aros mewn ‘Mesurau Arbennig’. Er mwyn parhau i graffu’n fanylach ar y sefydliadau hyn a’u cefnogi wrth symud ymlaen, gofynnwyd iddynt gyflwyno cynlluniau gweithredu blynyddol i swyddogion.

 

Mae cynlluniau gweithredu blynyddol yn gyfle i ni weithio’n agos gyda sefydliadau a chael sicrwydd ynglŷn â meysydd ansawdd a pherfformiad pwysig.  Ochr yn ochr â’r trefniadau uwchgyfeirio, mae’r dull hwn yn herio ac yn cynorthwyo sefydliadau i wella a gweithio tuag at allu cyflwyno cynllun tair blynedd cymeradwy yn y dyfodol.  

 

Hefyd, mae’r trefniadau hyn yn dangos bod gwaith llywodraethu yn mynd rhagddo i sicrhau bod cynlluniau sefydliadol ar waith a’u bod yn parhau i ddatblygu pan fydd sefydliadau’n methu cyflwyno Cynllun Tymor Canolig Integredig tair blynedd cymeradwy.

 

·         Mae’r fframwaith tair blynedd presennol ar gyfer Cynlluniau Tymor Canolig Integredig yn dod i ben ac mae angen eglurder ar y cam nesaf mewn perthynas â sut y bydd cynllunio a rheolaeth ariannol yn cael ei gyflwyno o fewn GIG Cymru.

Mae diwedd y cylch tair blynedd cyntaf yn gyfle i asesu’r cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yn hyn mewn perthynas â chynllunio integredig. Byddwn yn ystyried pa wersi sydd angen eu dysgu o’n gwerthusiad ac o unrhyw adolygiadau allanol eraill. Mae Fframwaith Cynllunio’r GIG yn cael ei adolygu a’i ailgyhoeddi bob blwyddyn.

 

Hwn yw’r dull o gyfleu disgwyliadau a blaenoriaethau polisi allweddol, ac o wneud newidiadau mwy sylfaenol i gynlluniau yn unol â’n disgwyliadau ar gyfer y system.

 

Mae’r gwaith o ddatblygu’r Fframwaith ar gyfer 2018-2021 ar fin cychwyn, a bydd yn ystyried unrhyw wersi ac adborth gan sefydliadau’r GIG, a gan gyhoeddiad disgwyliedig Swyddfa Archwilio Cymru yn dilyn ei hadolygiad o  “Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014 (cynlluniau tymor canolig integredig)”. Cyflwynir Fframwaith Cynllunio’r GIG i’r gwasanaeth yn yr hydref.

 

Mae’r Cyfarwyddwr Cyffredinol a Chyfarwyddwyr Grwpiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cyfarfod bob mis â sefydliadau sydd wedi’u huwchgyfeirio er mwyn monitro eu cynlluniau a chynorthwyo sefydliadau i gyflwyno cynllun tair blynedd cymeradwy yn y dyfodol. Fel rhan o’r broses hon, aethom ati i gomisiynu adolygiadau llywodraethu ariannol ac adolygiadau eraill o sefydliadau sydd wedi cyrraedd lefel ymyrraeth wedi’i thargedu er mwyn nodi’r sefyllfa a deall yr heriau strategol a gweithredol sy’n wynebu sefydliadau.

 

 

Atal

Mae’r manteision iechyd sy’n deillio o atal yn amlwg. Mae’n ddoethach atal clefyd na wynebu ei ganlyniadau maes o law. Mae’r ddogfen Gwneud Gwahaniaeth: Buddsoddi mewn Iechyd a Llesiant Cynaliadwy i Bobl Cymru yn cyflwyno tystiolaeth ymchwil a barn arbenigol sy’n cefnogi atal afiechyd a lleihau anghydraddoldeb. 

 

Datblygwyd yr adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae £88.7miliwn o gyllid craidd wedi’i ddyrannu ar gyfer 2017-18. 

 

Nid yw’r dyraniad cyllido wedi’i glustnodi ar gyfer unrhyw weithgaredd penodol. Mae hyn yn sicrhau’r lefel uchaf o hyblygrwydd i reoli adnoddau a bodloni amrywiaeth eang o flaenoriaethau ac ymrwymiadau.

 

Gordewdra

Amcangyfrifir bod mathau o salwch sy’n gysylltiedig â phobl sy’n rhy drwm neu’n ordew yn costio dros £86miliwn i’r GIG yng Nghymru. Ar y cyfraddau presennol, bydd y gost i’r GIG yn codi i £465miliwn y flwyddyn erbyn 2050, a gallai’r gost i gymdeithas a’r economi yng Nghymru gyrraedd £2.4biliwn[1].  Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu mewn ffordd amlweddog i fynd i’r afael â gordewdra, gan gydnabod y ffactorau cymhleth sydd ar waith wrth ddylanwadu ar ymddygiad a ffordd o fyw.

 

Smygu

Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal yn awgrymu bod rhoi’r gorau i smygu yn un o’r ymyraethau gofal iechyd mwyaf cost-effeithiol[2]

 

Mae’r rhan fwyaf o’r gwariant ar wasanaethau rhoi’r gorau i smygu wedi’i gynnwys yn nyraniad cyllido craidd Iechyd Cyhoeddus Cymru. Er ei bod yn anodd priodoli union gostau i waith rhoi’r gorau i smygu, yn 2015-16 gwariodd Iechyd Cyhoeddus Cymru £1.856miliwn ar wasanaethau rhoi’r gorau i smygu’r GIG, a gwariodd Llywodraeth Cymru £263,000 ar reoli a rhoi’r gorau i smygu. Os yw Llywodraeth Cymru yn gallu cyflawni ei hamcan o leihau lefelau smygu ymysg oedolion i 16%, mae’r buddsoddiad hwn yn debygol o arwain at arbedion sylweddol i Gymru.

 

Iechyd yn y Gweithle

Mae dewisiadau ffordd o fyw gwael yn effeithio ar unigolion, y GIG a’r economi.   Mae Cymru Iach ar Waith yn un elfen o’n dull ehangach o wella iechyd a gwaith. 

 

Mae’r rhaglen wedi’i hariannu ar y cyd gan yr Adran Iechyd ac Adran yr Economi, gyda’r naill yn cyfrannu £196,000 a’r llall yn cyfrannu £617,000 yn 2016-17. Mae cyllid ar gyfer y rhaglen dros gyfnod tair blynedd (2017-2020) yn cael ei ystyried ar hyn o bryd.

 

Imiwneiddio

Rydym yn parhau i ymateb i gyngor ar raglenni imiwneiddio cenedlaethol gan Gyd-bwyllgor y DU ar Frechu ac Imiwneiddio. Mae’r cyllid ar gyfer y rhan fwyaf o’n rhaglenni sydd wedi’u hen sefydlu yn rhan o ddyraniadau’r byrddau iechyd bellach. Amcangyfrifir bod pob £1 sy’n cael ei gwario ar frechiadau rhag y ffliw yn arwain at fudd gwerth £1.35[3].

 

Bydd y rhaglen brechu plant rhag y ffliw (£3.7 miliwn yn 2016-17) yn cael ei hymestyn eto’r gaeaf hwn (tua £700,000). 

 

Yn ogystal ag ymestyn y rhaglen yn 2017-18, yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ychwanegu dwy flwyddyn ysgol at y rhaglen yn 2018-19, a fydd yn costio £1.4miliwn yn ychwanegol.

 

Sgrinio

Mae sgrinio’r boblogaeth yn wasanaeth ataliol pwysig. Cyfeirir at y rhan fwyaf o raglenni fel cymorth ataliol eilaidd sy’n nodi cyflyrau ymysg pobl y tybir eu bod yn iach yn gynnar pan fydd yn haws i’w trin. O ganlyniad, mae ymyraethau a thriniaethau costus yn cael eu hosgoi yn gynt, gan wella hyd ac ansawdd bywyd yr unigolion dan sylw.

 

Nid yw cyllid Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi’i glustnodi ar gyfer unrhyw weithgaredd penodol, ond rydym yn gwybod drwy ei Gynllun Tymor Canolig Integredig bod gan yr Is-adran Sgrinio gyllideb o tua £37miliwn.

 

Cynlluniau wedi’u targedu i atal clefydau

Mae’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i weithredu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (trosglwyddwyd £3.5miliwn i ddyraniad craidd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2012-13). Datblygwyd y cynllun er mwyn safoni cyfleoedd atgyfeirio i wneud ymarfer corff ym mhob awdurdod lleol a bwrdd iechyd lleol yng Nghymru. Dyma rai enghreifftiau:

Ø  Darparodd y Grŵp Gweithredu ar gyfer Strôc £78,000 yn 2016-17 ac yn 2017-18 i gefnogi’r model ‘Stop a Stroke, who cares wins’ ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. 

Ø  Mae’r model yn cynnwys gweithio gyda chlystyrau gofal sylfaenol i wella’r broses o nodi a rheoli ffibriliad atrϊaidd. 

Ø  Mae’rCynllun Gwên wedi bod ar waith ers nifer o flynyddoedd. 

Ø  Mae’r rhaglen yn costio £3.7miliwn y flwyddyn ac mae tua 91,000 o blant yn cymryd rhan. 

 

·      Sut y mae newidiadau cyllido mewn cyllidebau llywodraeth leol, ac yn enwedig gwasanaethau cymdeithasol, wedi effeithio ar ofal cymdeithasol a gofal iechyd yn arbennig yn sgil cydnabod bod gwasanaethau cymdeithasol llywodraeth leol yn ffactor allweddol wrth leihau’r galw am wasanaethau’r GIG.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol sy’n gyfrifol am gyllid craidd llywodraeth leol. Yn 2017-18, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £4.114biliwn o gyllid refeniw wedi’i neilltuo i awdurdodau lleol drwy’r setliad llywodraeth leol – cynnydd o £10miliwn (0.2%) o’i gymharu â 2016-17.

 

Mae’r setliad llywodraeth leol ar gyfer 2017-18 yn cynnwys £25miliwn i gydnabod pwysigrwydd gwasanaethau cymdeithasol lleol cryf i lwyddiant hirdymor y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ac i gydnabod y pwysau cynyddol y mae gwasanaethau cymdeithasol yn eu hwynebu.

 

Mae gwasanaethau cymdeithasol llywodraeth leol yn ffactor allweddol yn y broses o leihau’r galw am wasanaethau’r GIG

Mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu gofal cymdeithasol fel sector o bwysigrwydd strategol cenedlaethol, ac mae’n parhau i fuddsoddi’n uniongyrchol mewn gofal cymdeithasol er mwyn sicrhau ein bod yn helpu’r GIG a gwasanaethau cyhoeddus eraill i atal ymyraethau mwy costus yn yr hirdymor.

 

Mae adroddiad 2016 y Sefydliad Iechyd – Y Llwybr i Gynaliadwyedd – yn dangos bod gofal cymdeithasol wedi’i ariannu’n ddigonol yn hollbwysig i wasanaeth iechyd cynaliadwy.

 

Mae integreiddio a chydweithio yn egwyddorion allweddol o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), sydd wedi gweddnewid y sector. Hefyd, mae’r fframwaith deddfwriaethol yn hyrwyddo dull gweithredu sy’n seiliedig ar ymyrraeth gynnar ac atal. Mae’r egwyddorion hyn yn ganolog i’r buddsoddiad mewn gwaith cymdeithasol yn y gyllideb ar gyfer 2017-18.

 

Mae’r Ddeddf yn darparu ar gyfer byrddau partneriaethau rhanbarthol newydd i ddarparu gwasanaethau gofal integredig sy’n gwella canlyniadau llesiant. Hefyd, dylai’r byrddau newydd hyn sicrhau’r defnydd gorau o adnoddau, ac mae’n rhaid iddynt gyfuno cronfeydd ariannol, gan gynnwys ar gyfer darparu lleoedd mewn cartrefi gofal i oedolion. Ochr yn ochr â’r fframwaith cyfreithiol newydd, sefydlwyd y Gronfa Gofal Integredig i ddarparu cyllid refeniw a chyllid cyfalaf sylweddol ar gyfer byrddau rhanbarthol er mwyn helpu i ddatblygu modelau gweithio integredig newydd ac arloesol rhwng gwasanaethau cymdeithasol a’r sectorau iechyd, tai, y trydydd sector a’r sector annibynnol. 

 

Mae’r gronfa wedi darparu arian sefydlu i ddatblygu arferion da presennol a datblygu modelau gofal a chymorth newydd ac arloesol. Nodir yn gyffredinol bod y gronfa wedi llywio’r broses o weddnewid datblygiad a darpariaeth gwasanaethau i’w gwneud yn fwy gwydn. O ganlyniad, mae adroddiadau gan ranbarthau yn dangos bod y cyllid wedi’i ddefnyddio i leihau pwysau ar y system ysbytai, gan gynnwys lleihau nifer y derbyniadau diangen i ysbytai, nifer y derbyniadau amhriodol i ofal preswyl, ac achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal o ysbytai. Mae data ar gyfer cyfnod cyfrifiad mis Ebrill 2017 yn dangos bod y cyfanswm o dan 400 am bedwar mis yn olynol – llwyddiant unigryw yn ystod y 12 mlynedd o gofnodi ystadegau ar oedi wrth drosglwyddo gofal.  

 

Mae Symud Cymru Ymlaen yn cynnwys ymrwymiad i gadw’r gronfa hon, ac mae cyllid gwerth £60miliwn wedi’i neilltuo ar gyfer 2017-18, gan gynnwys £10miliwn o gyllid cyfalaf. Mae’r Gronfa Gofal Integredig yn parhau i gefnogi’r gofyniad i ddarparu neu drefnu gwasanaethau ataliol yn unol ag adran 15 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Bydd y Gronfa Gofal Integredig ar gyfer 2017-18 yn parhau i ganolbwyntio ar y meysydd canlynol:

Ø   Pobl hŷn ag anghenion cymhleth a chyflyrau hirdymor, gan gynnwys dementia

Ø    Pobl ag anableddau dysgu

Ø   Plant ag anghenion cymhleth oherwydd anabledd neu salwch

Ø   Hefyd, am y tro cyntaf erioed bydd yn cynnwys gofalwyr, gan gynnwys gofalwyr ifanc

 

Er enghraifft, yn ystod 2016-17 cyflwynwyd nifer o brosiectau gwahanol yn y rhanbarthau a oedd yn unigryw i’r amgylchiadau lleol. Llwyddodd y prosiectau hyn i gefnogi gwelliannau i ffigurau oedi wrth drosglwyddo gofal:

Ø   Yn y Gorllewin, defnyddiwyd £235,000 i ariannu Tîm Sefydliadau Gwirfoddol Canolraddol Sir Benfro (PIVOT). Ym mis Ionawr, nodwyd bod 1000 o ddyddiau gwely wedi’u harbed a bod dros 100 o dderbyniadau i ysbytai wedi’u hosgoi erbyn trydydd chwarter y flwyddyn.

Ø    Yn y Gogledd, defnyddiwyd £95,000 i sefydlu tîm rhyddhau amlddisgyblaethol saith diwrnod yng Ngwynedd er mwyn ceisio osgoi derbyniadau i wardiau acíwt a’r system brysbennu, a chyfeirio mwy o gleifion i wasanaethau cymunedol. Aseswyd 297 o gleifion gan y tîm amlddisgyblaethol, a rhyddhawyd 119 (40%) ohonynt.

Ø   Yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, defnyddiwyd £727,000 i gefnogi prosiect Atebion Llety, gan gynnwys darparu llety Camu i fyny/Camu i lawr. Cafodd y gwasanaeth ei ddefnyddio gan 116 o gleifion a oedd ar y rhestr oedi wrth drosglwyddo gofal, a llwyddwyd i osgoi 1,550 o ddyddiau gwely (gan arbed £426,250).

Ø   Defnyddiodd Gwent £150,000 i ddarparu gwelyau gofal canolraddol i helpu i hwyluso’r broses o ryddhau cleifion o ysbytai. Mae hyn wedi arwain at 40 o dderbyniadau i welyau Camu i fyny/Camu i lawr, gan arbed tua 1928 o ddyddiau gwely.

Ø   Ym Mae’r Gorllewin, ariannwyd tîm nyrsio arbenigol i helpu i osgoi derbyn cleifion i ysbytai. Cafodd 80 o dderbyniadau eu hosgoi diolch i’r gwasanaeth.

Ø   Ym Mhowys, defnyddiwyd £217,000 i helpu i wella llif cleifion. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad o 20% yn yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal o ysbytai cymunedol, gan arbed tua 176 o welyau.

Ø   Derbyniodd y Tîm Rhyddhau ar gyfer Achosion Cymhleth yn ardal Cwm Taf £100,000 i gefnogi gwasanaethau cydgysylltiedig rhwng gofal sylfaenol, gofal eilaidd, gofal cymunedol, gofal cymdeithasol a sefydliadau gwirfoddol. Darparodd y cynllun hwn gymorth i bron i 300 o bobl.

 

Mesur perfformiad

Cyflwynwyd mesurau perfformiad newydd yn 2016-17 fel rhan o’r fframwaith mesur perfformiad ar gyfer awdurdodau lleol mewn perthynas â’u swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, yn unol â manylion y cod ymarfer ar gyfer mesur perfformiad gwasanaethau cymdeithasol, a gyhoeddwyd o dan adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

 

Dyma amcanion y fframwaith mesur perfformiad:

Ø   Galluogi pobl i ddeall ansawdd gwasanaethau cymdeithasol a gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am eu gofal a’u cymorth;

Ø   Atgyfnerthu cynlluniau strategol awdurdodau lleol i hwyluso adnoddau wedi’u targedu a gweithgareddau gwella. Helpu awdurdodau lleol i gymharu a meincnodi eu perfformiad yn erbyn eraill, a’u helpu i ddysgu a gwella;

Ø   Darparu tystiolaeth o gyfrifoldeb ac atebolrwydd am ddarpariaeth leol i Weinidogion Cymru a llywio datblygiad polisi cenedlaethol;

Ø   Cefnogi a llywio’r system reoleiddio, arolygu, archwilio a chraffu.

 

Bydd y mesurau perfformiad a nodir yn y cod ymarfer yn disodli’r holl fesurau perfformiad presennol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, a rhaid casglu’r mesurau cyn i’r Ddeddf ddod i rym. Mae awdurdodau lleol wrthi’n cyflwyno data 2016-17 i Lywodraeth Cymru, a bydd y data hwn yn cael ei gyhoeddi ym mis Hydref 2017.

 

Cyllid setliad llywodraeth leol

Yn 2017-18, byddwn yn rhoi £4.114biliwn o gyllid refeniw wedi’i neilltuo i lywodraeth leol drwy’r setliad llywodraeth leol – cynnydd o £10miliwn (0.2%) o’i gymharu â 2016-17.

 

Nid yw’r cyllid sy’n cael ei ddarparu drwy’r setliad llywodraeth leol yn gyllid wedi’i neilltuo, sy’n golygu bod gan awdurdodau lleol ryddid a chyfrifoldeb i wario’r cyllid yn unol â’u hanghenion a’u blaenoriaethau unigol.

 

Roedd datganiad y setliad terfynol ar gyfer 2017-18 yn cynnwys terfyn isaf sy’n sicrhau na fydd setliad terfynol unrhyw awdurdod mwy na 0.5% yn is nag yn 2017-18.

 

Y cyllid sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru drwy’r setliad blynyddol yw’r elfen unigol fwyaf o gyllid llywodraeth leol, ond mae yna elfennau eraill hefyd. Mae awdurdodau lleol yn derbyn cyllid drwy’r dreth gyngor, incwm o werthiant, ffioedd a thaliadau, a grantiau eraill gan y llywodraeth.

 

Mae’r setliad llywodraeth leol ar gyfer 2017-18 yn cynnwys £25miliwn i gydnabod pwysigrwydd gwasanaethau cymdeithasol cryf i lwyddiant hirdymor gwasanaethau iechyd yng Nghymru, ac i gydnabod y pwysau cynyddol y mae gwasanaethau cymdeithasol yn eu hwynebu.

 

Fformiwla setliad llywodraeth leol

Mae’r cyllid refeniw craidd sy’n cael ei ddarparu gennym bob blwyddyn i awdurdodau lleol yn cael ei ddosbarthu yn ôl angen cymharol, gan ddefnyddio fformiwla sy’n ystyried llawer o wybodaeth am nodweddion demograffig, ffisegol, economaidd a chymdeithasol awdurdodau lleol.  

 

Mae’r fformiwla cyllido hwn wedi’i ddatblygu mewn ymgynghoriad â llywodraeth leol drwy’r Is-grŵp Dosbarthu; gweithgor technegol sy’n cynnwys uwch swyddogion llywodraeth leol o bob cwr o Gymru, cynrychiolwyr CLlLC ac arbenigwyr annibynnol er mwyn sicrhau bod y ffactorau gwahanol yn cael eu trin yn deg. 

 

At ddibenion tryloywder, cyhoeddir y fethodoleg fanwl mewn Llyfr Gwyrdd blynyddol. Mae’r fformiwla’n cael ei hadolygu a’i gwella’n barhaus o dan oruchwyliaeth yr Is-grŵp Dosbarthu. Mae’r Grŵp yn llunio adroddiad blynyddol sy’n cael ei ystyried gan Is-grŵp Cyllid Cyngor Partneriaeth Cymru.

 

Ym mhob un o’r pedair blynedd diwethaf, cyflwynwyd terfyn cyllid isaf er mwyn sicrhau nad yw cyllid unrhyw awdurdod yn cael ei leihau’n anghymesur o’i gymharu ag awdurdodau eraill. Dros y ddwy flynedd diwethaf, ariannwyd y terfyn isaf yn llawn gan Lywodraeth Cymru ar gost o dros £4miliwn.

 

Yn 2016, cytunodd yr Is-grŵp Cyllid i gyflwyno newidiadau’n raddol i elfennau Gwasanaethau Cymdeithasol Personol fformiwla’r setliad er mwyn cydnabod costau amser teithio yn y sector gwasanaethau cymdeithasol. Mae cam cyntaf setliad 2017-18 wedi’i gwblhau, a bydd cam setliad 2018-19 yn cael ei gwblhau maes o law.

 

£19miliwn i ymateb i’r pwysau sy’n wynebu’r gweithlu gofal cymdeithasol

Yn ogystal â’r setliad llywodraeth leol, cyhoeddwyd grant Iechyd a Gofal Cymdeithasol £10miliwn adeg y gyllideb, a gynyddodd wedyn i £19miliwn i gydnabod yr heriau ariannol penodol sy’n deillio o ddarparu gofal, gan gynnwys pwysau ar y gweithlu.

 

 

Sefyllfa ariannol Llywodraeth Leol a Gofal Cymdeithasol

·           Y cyllid ychwanegol a ddarperir ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yn 2017-18, sef cyfanswm o £55miliwn, gan gynnwys £10miliwn er mwyn helpu i gwrdd â phwysau cost y gweithlu a oedd yn setliad cyllideb derfynol 2017-18 ac £20miliwn a gyhoeddwyd ar 27 Mawrth 2017. Byddai'r Pwyllgor yn croesawu eich barn ar y graddau y bydd hyn yn helpu'r sector i gwrdd â phwysau'r gweithlu a'r galw cynyddol am wasanaethau.

·           Mewn perthynas â 2016-17, y graddau y mae newidiadau mewn cyllidebau awdurdodau lleol wedi effeithio ar wariant gwasanaethau cymdeithasol a mesurau perfformiad gwasanaethau cymdeithasol.

·           A oes unrhyw arwydd bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sydd bellach wedi bod mewn grym am flwyddyn lawn, yn cael effaith ar wariant gwasanaethau cymdeithasol.

Mae £20miliwn o gyllido rheolaidd ychwanegol ar gael ers 2017-18 drwy gyllido canlyniadol yn dilyn cyllideb mis Mawrth Llywodraeth y DU.   

 

Bydd y cyllid yn cael ei fuddsoddi mewn tri maes allweddol:

ØBydd £9miliwn yn cynyddu lefel y cyllid sydd eisoes ar gael i reoli costau’r gweithlu a hyrwyddo sefydlogrwydd y farchnad gofal cymdeithasol (mae hyn yn ychwanegu at y £10miliwn a gyhoeddwyd eisoes)

ØBydd £8miliwn yn cefnogi gwaith i atal plant rhag mynd i ofal ac yn gwella canlyniadau ar gyfer y rhai sy’n derbyn gofal

ØBydd £3miliwn yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol i gefnogi gofal seibiant ar gyfer gofalwyr mewn ymateb i’w cyfraniad hollbwysig

 

Mae’r cyllid £20miliwn hwn yn cynyddu buddsoddiad ychwanegol mewn gofal cymdeithasol i £55miliwn ar gyfer 2017-18. 

 

Fel rhan o adolygiad cynhwysfawr o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, bydd y fframwaith mesur perfformiad yn cael ei werthuso.  

 

Mae trafodaethau eisoes ar waith rhwng swyddogion ac awdurdodau lleol i ddeall sut mae’r mesurau yn gweithio yn y cyfnod cynnar a sut i’w gwella. Bydd canfyddiadau ar gael tua diwedd eleni.

 

O’r cychwyn, rydym wedi nodi pwysigrwydd gwerthuso effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 er mwyn asesu i ba raddau y mae’r Ddeddf wedi llwyddo i wella llesiant pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt a llesiant gofalwyr y mae angen cymorth arnynt. Gwaith hirdymor a hynod bwysig yw hwn a fydd yn mynd rhagddo mewn partneriaeth ag amrywiaeth eang o randdeiliaid. Bydd yn cynnwys:

Ø  monitro polisïau o dan y Ddeddf yn ystod y flwyddyn gyntaf er mwyn deall a yw’r polisïau’n cael eu rhoi ar waith yn unol â’r bwriad, ac er mwyn helpu i wella polisïau    

Ø  cynnal gwerthusiad parhaus drwy’r fframwaith canlyniadau cenedlaethol a fframwaith mesur perfformiad awdurdodau lleol

Ø  gwerthusiad untro a fydd yn cychwyn yn ystod trydedd flwyddyn gweithredu’r Ddeddf.

 

 

Chwaraeon ac ymarfer corff

·         Ar gyfer 2017-18, y dyraniadau cyllideb yn eich portffolio ar gyfer chwaraeon ac ymarfer corff; y canlyniadau yr ydych yn disgwyl iddynt gael eu sicrhau ar gyfer y buddsoddiad; a’r amserlen ar gyfer gwireddu’r canlyniadau hyn.

Mae cyllideb gwerth £22.767miliwn ar gael ar gyfer chwaraeon ac ymarfer corff yn 2017-18. Mae hyn yn cynnwys cymorth grant gwerth £22.515miliwn ar gyfer Chwaraeon Cymru, gan gynnwys Cyllid Refeniw gwerth £21.313miliwn a Chyllid Cyfalaf gwerth £423,000 i gynorthwyo’r gwaith parhaus o adnewyddu’r Canolfannau Cenedlaethol.

 

Mae Llythyr Cylch Gwaith 2017-18 Chwaraeon Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff fuddsoddi mewn ffordd ragweithiol i fynd i’r afael a’r agendâu iechyd, anghydraddoldeb a threchu tlodi. 

 

Wrth helpu i gyflwyno’r rhaglen “Symud Cymru Ymlaen”, dylai Chwaraeon Cymru gefnogi pobl ifanc o ardaloedd difreintiedig a datblygu cyfleoedd newydd ar gyfer ein pobl ifanc dlotaf, pobl ifanc anabl a grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol.  

 

Dylai buddsoddiadau ddarparu rhaglenni sy’n ymgysylltu â phobl mewn cymunedau nad ydynt yn cymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff, neu nad ydynt yn cymryd rhan i’r graddau sy’n ei argymell gan y Prif Swyddog Meddygol.    

 

Bydd Chwaraeon Cymru yn archwilio sut y gall partneriaid newydd a llwybrau ymgysylltu arloesol greu newid sylweddol, gan dreialu rhaglenni newydd lle bo hynny’n briodol.

 

Hefyd, dylai buddsoddiadau gefnogi’r llwybr ar gyfer y rhai sydd eisoes yn cymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff, er mwyn annog cyfranogiad rheolaidd a nodi a datblygu talent. 

 

Bydd Chwaraeon Cymru yn parhau i weithio i ddatblygu dull gweithredu newydd ym meysydd chwaraeon cymunedol ac ymarfer corff.

 

Bydd Chwaraeon Cymru yn comisiynu adolygiad allanol o’i raglenni chwaraeon ysgolion a’i ddau gynllun Nofio am Ddim, gan adrodd i’r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol erbyn hydref 2017.

 

Hefyd, mae’r cyllid refeniw yn cynnwys darpariaeth barhaus i roi’r Fenter Nofio am Ddim ar waith (£3.75miliwn). 

 

Mae’r gweddill (£252,000) yn cael ei ddyrannu i gefnogi prosiectau sy’n ymwneud â chwaraeon, gan gynnwys:

 

Gemau Cymru

£55,000

Cwpan y Byd i Bobl Ddigartref

£5,000

Adolygiad o Gyfleusterau Chwaraeon

£40,000

Gemau Olympaidd Arbennig

£10,000 

Nofio am Ddim i Aelodau’r Lluoedd Arfog   

£75,000

                 

 

Buddsoddiad cyfalaf

·           Y sefyllfa bresennol o ran cyllid cyfalaf, gan gynnwys yr adnoddau sydd ar gael a beth yw’r broses ar gyfer blaenoriaethu.

Cyllideb cyfalaf 2017-18 ar gyfer Iechyd, Llesiant a Chwaraeon yw £251.971miliwn. 

 

Mae hyn yn cynnwys cyllid afreolaidd gwerth £36.689miliwn o gronfeydd wrth gefn Llywodraeth Cymru i gefnogi buddsoddiad penodol mewn genomeg (£1.5miliwn) a’r ystâd gofal sylfaenol (£5miliwn). Bydd gweddill y cyllid afreolaidd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith cynnal a chadw i’r ystâd ac i brynu cyfarpar newydd.    

 

Mae buddsoddi mewn seilwaith y GIG yn flaenoriaeth allweddol o hyd, ac mae’r gyllideb sydd wedi’i chyhoeddi yn dangos y byddwn yn buddsoddi dros £1biliwn o gyllid cyfalaf dros y pedair blynedd nesaf. O safbwynt argaeledd cyllid cyfalaf, bydd y gyllideb yn cefnogi nifer o brosiectau arwyddocaol yn y dyfodol agos.

 

Mae hyn yn cynnwys adeiladu Canolfan Gofal Critigol Arbenigol yng Nghwmbrân, cwblhau’r gwaith ailddatblygu yn Ysbyty Glan Clwyd a moderneiddio ac ehangu cyfleusterau newyddenedigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Ysbyty’r Tywysog Siarl, a’r Ganolfan Is-ranbarthol ar gyfer Gofal Newyddenedigol Dwys yn y Gogledd. 

 

Hefyd, mae cyllid wedi’i glustnodi i gyflwyno nifer o gynlluniau eraill ledled Cymru, yn ogystal ârhaglenni cenedlaethol sy’n cefnogi datblygiadau ym meysydd gofal sylfaenol a gofal cymunedol, delweddu a diagnosteg, a TGCh.

 

Mae’r flaenraglen fuddsoddi yn seiliedig ar flaenoriaethau gam wrth gam a nodwyd gan gyrff y GIG drwy eu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig. Hefyd, mae’r blaenoriaethau hyn yn cael eu hasesu i weld a ydynt yn cyd-fynd â meini prawf buddsoddi GIG Cymru, sef gwella iechyd, cynaliadwyedd refeniw, perfformiad ac effeithlonrwydd, sgiliau clinigol a chynaliadwyedd.

 

·           Sut y mae’r materion cyllid cyfalaf ym maes gofal sylfaenol yn cael eu datrys, o ystyried y pryderon am ystâd gofal sylfaenol ac argaeledd cyfyngedig cyllid cyfalaf.

Mae datblygu’r ystâd gofal sylfaenol a chymunedol yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer buddsoddiad cyfalaf y GIG, ac mae’n cael ei adlewyrchu yn y rhaglen Symud Cymru Ymlaen drwy’r ymrwymiad i ddatblygu cyfres o gyfleusterau integredig ledled Cymru.   

 

Amcan y cyfleusterau hyn yw arwain y gwaith o ddatblygu modelau gwasanaeth cydweithredol a hwyluso mynediad lleol ac uniongyrchol i amrywiaeth o ddarparwyr cyhoeddus a darparwyr trydydd sector mewn un lle.

 

Rydym eisoes wedi cyhoeddi y bydd cyllid cyfalaf gwerth £40miliwn ar gael dros y pedair blynedd nesaf i helpu i ddarparu’r cyfleusterau hyn, a byddwn yn cyhoeddi cam cyntaf y buddsoddiad yn yr hydref.

 

Yn ogystal, y tu hwnt i’r cyllid hwn sydd wedi’i dargedu, mae’r rhaglen bresennol yn cefnogi nifer o ddatblygiadau ym maes gofal sylfaenol a fydd yn cael eu cwblhau yn ystod y flwyddyn ariannol hon. 

 

Mae’r rhain yn cynnwys cyfleusterau ym Mlaenau Ffestiniog, y Fflint, y Bala, Cricieth, Aberdâr, Cam 1 Ysbyty Dewi Sant Pontypridd, a Chanolfan Iechyd Heol Dyfed yng Nghastell-nedd. 

 

·           Modelau ariannu arloesol sy’n cael eu hystyried ar gyfer codi arian cyfalaf ar gyfer cynlluniau cyfalaf yn y dyfodol, gan gynnwys y defnydd o’r GIG ac ystâd gofal sylfaenol fel liferi mewn unrhyw brosiectau.

Fel rhan o’n pwerau benthyca cyfalaf newydd a amlinellwyd yn wreiddiol yn Neddf Cymru 2014, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu rhaglen waith sy’n golygu bod modd gwneud £1.5biliwn o fuddsoddiad ychwanegol yn y seilwaith cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru dros y chwe blynedd nesaf.

 

Mae tri phrif brosiect cyfalaf yn ganolog i’r rhaglen £1.5biliwn hon, a byddant yn cael eu rhoi ar waith drwy fath newydd o bartneriaeth gyhoeddus – preifat, y Model Buddsoddi Cydfuddiannol, a lansiwyd ym mis Mawrth 2017. 

 

Y Ganolfan Canser newydd yn Felindre, sydd â gwerth cyfalaf o tua £210miliwn, yw un o’r prif brosiectau i’w rhoi ar waith drwy ddefnyddio’r dull ariannu hwn.[4] 

 

Ar hyn o bryd, mae ein swyddogion yn ystyried sut y gall y GIG gydweithio mwy ag awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i fodloni gofynion tai a darparu gwasanaethau gofal sylfaenol, cymunedol a gwasanaethau cymdeithasol. 

 

Rydym yn disgwyl derbyn yr achos busnes terfynol ar gyfer cynllun Cylch Caron yn Nhregaron cyn diwedd y flwyddyn, ac mae’r cynllun hwn yn defnyddio cyfuniad o gyllid grant a benthyciadau Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i gyfuno iechyd, gofal cymdeithasol a thai yn yr un lle.

 

O safbwynt codi cyfalaf, ni chynigir rhoi pwerau benthyca i’r byrddau iechyd lleol yng Nghymru.   

 

Mae rhaglen gwaredu tir dros ben ar waith ledled GIG Cymru, ac mae sefydliadau yn gallu trefnu bod enillion o werthu tir yn cael eu hail-fuddsoddi mewn blaenoriaethau seilwaith lleol. 

 

Mae gan GIG Cymru hanes da o weithio gyda chyrff eraill yn y sector cyhoeddus i archwilio cyfleoedd i ddefnyddio tir a chyfleusterau sydd eisoes yn bodoli er budd ehangach cymunedau. 

 

Anogir cydweithio rhwng GIG Cymru a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus i wella’r broses o reoli a defnyddio tir ac adeiladau.

 

Cyflawnwyd hyn drwy sefydlu Cronfa Ddata Eiddo Sector Cyhoeddus Cymru.

 

 

Darpariaeth ar gyfer deddfwriaeth

·         Maint a lleoliad y dyraniadau i ddarparu ar gyfer deddfwriaeth yn y portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol;

Deddfwriaeth

Lefel Cyllid

Cam Gweithredu

Deddf Trawsblannu (Cymru) 2013

£0.2 miliwn

Darparu Gwasanaethau’r GIG wedi’u Targedu

£0.2 miliwn

Darparu Gwasanaethau Craidd y GIG

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

£0.2 miliwn

Y Strategaeth Gwasanaethau Cymdeithasol

£2.8 miliwn

Cyllid Llywodraeth Leol (drwy Grant Cynnal Refeniw)

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

£1.8 miliwn

Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy

 

·         Y symiau a’r lleoliad yn y gyllideb ar gyfer dyraniadau ar gyfer deddfwriaeth yng Nghymru sydd (a) yn cael ei phasio ar hyn o bryd yn y Cynulliad hwn neu a gynlluniwyd yn y rhaglen ddeddfwriaethol;

Ar gyfer y Papur Gwyn ‘Ansawdd a Llywodraethu mewn iechyd a gofal yng Nghymru’, nid ydym yn rhagweld ar hyn o bryd y bydd y cynigion deddfwriaethol yn debygol o arwain at gostau neu arbedion sylweddol gan eu bod yn ymwneud yn bennaf â galluogi a datblygu’r trefniadau presennol.  

 

Fodd bynnag, mae’r costau a’r arbedion yn cael eu hystyried wrth i’r gwaith polisi ar y cynigion ddatblygu. Mae trafodaethau cychwynnol wedi dechrau, a bydd rhagor o gynnydd yn cael ei wneud yn y maes hwn pan fydd canlyniad y Papur Gwyn yn hysbys.

 

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

Pasiwyd y Bil gan y Cynulliad Cenedlaethol ar 16 Mai, ac yn amodol ar Gydsyniad Brenhinol, bydd y costau gweithredu’n dechrau cael eu hysgwyddo o 2017-18 ymlaen.  

 

Mae amcangyfrif o oblygiadau ariannol gweithredu’r Bil wedi’i nodi yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, sy’n nodi’r costau posibl ar gyfer amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Mae amcangyfrif o’r costau i Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol dros gyfnod o bum mlynedd wedi’i grynhoi isod:

 

 

2017-18 (£)

2018-19 (£)

2019-20 (£)

2020-21 (£)

2021-22 (£)

Cyfanswm (£)

Llywodraeth Cymru

198,400

42,300

11,500

27,200

25,300

304,700

Awdurdodau lleol

365,900

683,600

362,500

390,900

342,800

2,145,700

 

Bydd costau gweithredu Llywodraeth Cymru yn dod o gyllideb Is-adran y Grŵp Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol â phrif gyfrifoldeb polisi am feysydd gwahanol y Bil. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yr arian yn dod o’r gyllideb Gwella Iechyd a Chymru Iach ar Waith. 

 

Cydnabyddir y bydd llywodraeth leol yn sector allweddol wrth gyflwyno’r ddeddfwriaeth, yn enwedig trwy ei chyfrifoldebau gorfodi presennol.

 

Mae ymdrechion wedi’u gwneud drwy’r Bil cyfan i leihau’r baich ariannol ar awdurdodau lleol, er enghraifft trwy greu ffrydiau ariannu newydd o ffynonellau fel trwyddedau gweithdrefnau arbennig a hysbysiadau cosb benodedig. Nodwyd y bydd angen posibl dod o hyd i arian pontio ychwanegol fel bod awdurdodau lleol yn gallu helpu i weithredu’r Bil yn gynnar.

 

Hefyd, rhagwelir y bydd cyfleoedd ar gael i leihau costau o’i gymharu â’r hyn a nodir yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol os yw rhai agweddau ar weithredu’r Bil yn cael eu cydgysylltu ledled y meysydd gwahanol. 

 

·         Y symiau a neilltuwyd ar gyfer gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Mae £0.2miliwn yn cael ei gadw i gefnogi gweithgareddau cenedlaethol i sicrhau dulliau gweithredu cyson a phrosesau cyffredin ledled y rhanbarthau sy’n cyflawni dyletswyddau o dan y Ddeddf (e.e. rheoli perfformiad, dulliau ymarfer newydd). Hefyd, mae £2.8miliwn yn cael ei ychwanegu at y setliad llywodraeth leol i gefnogi darpariaeth drwy fyrddau partneriaeth rhanbarthol.

 

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Rhagwelir mai £1.765miliwn fydd y gwahaniaeth blynyddol rhwng y gost o ‘fusnes fel arfer’ a’r gost o ddatblygu trefn newydd, sy’n cyfuno elfennau diogelu hanfodol ochr yn ochr â dull rheoleiddio sy’n seiliedig ar ganlyniadau. 

 

Mae’r ffigur hwn yn seiliedig ar weithredu’r Ddeddf yn ei chyfanrwydd, ond bydd y ffigur yn llai os yw rhai elfennau’n cael eu cyflwyno’n raddol (fel graddfeydd).

 

Mae’r gost o £1.765miliwn yn deillio o’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol a gyhoeddwyd. Cyflwynodd yr Asesiad hwn broffil cost pum mlynedd ar gyfer gweithredu llawn, ac at ddibenion enghreifftiol, y flwyddyn gyntaf lawn oedd 2017-18.

 

Yn unol âchyhoeddiad y weinyddiaeth flaenorol, mae’r rheoliadau gwasanaeth o dan y Ddeddf yn cael eu datblygu a disgwylir iddynt ddod i rym o fis Ebrill 2018 ymlaen. Disgwylir i’r Ddeddf gael ei gweithredu’n llawn erbyn mis Ebrill 2019.   

 

Rhagwelir y bydd yn costio tua £1 miliwn i AGGCC weithredu’r Ddeddf yn ystod 2017-18. 

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £2.780miliwn yn 2017-18 i gefnogi’r broses o weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

 

·         A oes unrhyw gynlluniau i fwrw ymlaen â'r opsiwn, a nodir yn y Papur Gwyrdd 'Ein Hiechyd, Ein Gwasanaeth Iechyd', i roi pwerau benthyca cyfalaf i fyrddau iechyd fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf.

 

Yn dilyn y Papur Gwyrdd, rhoddwyd ystyriaeth i’r posibilrwydd o roi pwerau benthyca i fyrddau iechyd lleol fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf. 

 

Fel y nodwyd yn adroddiad “Ymgynghoriad – crynodeb o ymatebion” y Papur Gwyn a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2016, cafwyd ymateb cymysg i’r cwestiwn o bwerau benthyca. 

 

Roedd rhai o blaid pwerau benthyca, gan gyfeirio at y gallu i gyflymu buddsoddiadau cyfalaf a datblygu cynlluniau ac achosion busnes yn fwy effeithiol. Fodd bynnag, roedd eraill yn gwrthwynebu pwerau benthyca, gan nodi y gallent arwain at risgiau sylweddol gan nad yw’r byrddau iechyd wedi dangos digon o aeddfedrwydd ym meysydd cynllunio neu ariannu i gefnogi darpariaeth o’r fath.

 

Mae Deddf Cymru 2014 wedi cyflwyno pwerau benthyca newydd i Lywodraeth Cymru naill ai drwy’r Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol neu fenthyciwr arall, sy’n galluogi Llywodraeth Cymru i fenthyca o fis Ebrill 2018 ymlaen.  

 

Gan y byddai benthyciadau Byrddau Iechyd Lleol yn cyfrif yn erbyn terfyn benthyca Llywodraeth Cymru, ac o ystyried yr ymatebion cymysg, ni chynigir cyflwyno pwerau benthyca i’r byrddau iechyd.

 

 



[1] Ffynhonnell: Adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru t.41. Mae ffigurau ychwanegol ym ymwneud â 2050 wedi’u tynnu o ddata’r DU gan Arsyllfa Iechyd y Cyhoedd t.8

http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/888/Making%20A%20Difference_Evidence%28E_web%29.pdf

 

[2] Ffynhonnell: Adroddiad costio NICE https://www.nice.org.uk/guidance/ph45/resources/costing-report-69105277

[3] Ffynhonnell: Papur Dystiolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru – t. 85. http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/888/Making%20A%20Difference_Evidence%28E_web%29.pdf

[4] Prisiau 2013-14